Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 20 Gorffennaf 2020
Amser:
09.03 -
12.21
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6421
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Hefin David AS Suzy Davies AS Siân Gwenllian AS |
Tystion: |
Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Dirprwy Lefarydd ar gyfer Addysg a’r Gymraeg - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Sharon Davies, Pennaeth Addysg – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Karen Evans, Cadeirydd – Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru Debbie Harteveld, Rheolwr Gyfarwyddwr – Gwasanaeth Cyflawni Addysg i Dde-ddwyrain Cymru Anna Bolt, Pennaeth Diwygio’r Cwricwlwm ac Arloesedd – Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) Clara Seery, Rheolwr Gyfarwyddwr - Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De (CSC) Natalie Gould, Uwch arweinydd o ran Diwygio'r Cwricwlwm – Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De (CSC) Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr - Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru (GwE) |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Rhiannon Lewis (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Nododd y Cadeirydd ymddiheuriadau gan Janet Finch-Saunders AS. Nid oedd dirprwy.
2 Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 2 gyda chynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (ADEW)
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4
3.1 Derbyniwyd y cynnig
4 Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): trafod y dystiolaeth
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.
5 Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 3 gyda chynrychiolwyr y Consortia Addysg Rhanbarthol
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Consortia Rhanbarthol.
6 Papurau i’w nodi
6.1 Nodwyd y papurau.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn nodi bod yr Aelodau’n fodlon y byddai'n fwy priodol gosod adroddiad blynyddol 2018-19 gerbron y Senedd i'w nodi, a hynny yng ngoleuni'r oedi rhwng cyhoeddi’r adroddiad a’r dyddiad posibl yn ystod tymor yr hydref pan ellir cynnal dadl arno yn y Cyfarfod Llawn. Nododd yr Aelodau hefyd y byddent yn falch o gael cyfle yn ystod y ddadl honno i gyfeirio at y pwyntiau sy'n codi o waith craffu’r Pwyllgor ar adroddiad Estyn ar gyfer 2018-19, os ydynt yn berthnasol bryd hynny.
6.3 Cytunodd y Cadeirydd i gwrdd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i drafod canfyddiadau gwaith dilynol yr Arolygiaeth ar ei hadroddiad thematig ar wasanaethau pobl ifanc, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2019.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8 Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - trafod y dystiolaeth
8.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.
9 Blaenraglen waith
9.1 Trafododd y Pwyllgor bapur ar y flaenraglen waith.
9.2 Cytunodd yr Aelodau ar y canlynol:
- ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am slot i gyfarfod yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 19 Hydref 2020, er mwyn cwblhau’r gwaith o graffu ar y Bil;
- y drefn a awgrymir ar gyfer gwaith a ohiriwyd yn sgil COVID-19;
- y rhaglen waith ar gyfer tymor yr hydref, gan ychwanegu’r gwaith o drafod adolygiad Llywodraeth Cymru o gyllid ysgolion pan fo’n briodol.